Croeso, wnewch chi fewngofnodi neu ymuno

Mae cerdded a seiclo yn ffordd rhad, iachus a sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd o deithio i'r gwaith, ysgol ac ar gyfer siwneiau arall bob dydd. Rydym yn hysbus nad yw'n bosib i bawb yng Nghanolbarth Cymru gerdded a seiclo i'r gwaith nail ai am eu bod yn rhu bell neu oherwydd rhyw reswm arall. Mae'r tirwedd ar tywydd hefyd yn resymau pam fod nifer ohonom yn dewis peidio â cherdded a seiclo. Er hyn, i nifer ohonom mae'n bosib i ni adael y car gartref yn fwy aml a cherdded a seiclo ar gyfer nifer o'n siwrneiau byr. Byddai cynydd yn y nifer sy'n cerdded a seiclo yn gymorth i leihau tagfeydd traffig yn ein trefydd ac yn gwneud am le iachach a mwy delfrydol i fyw, weithio a ymweld.
Mae adnoddau cerdded a seiclo o fewn (a rhwng) trefydd Canolbarth Cymru yn cael ei gwella o hyd I'w gwneud yn fwy diogel a hygyrch. Drwy'r gwelliannau yma rydym yn gobeithio annog fwy o fobl i gerdded neu seiclo i'r gwaith, ysgol neu ar gyfer siwrneiau pob dydd arall megis i siopa, ymweld â ffrindiau neu ymweld â'r ganolfan hamdden.
Mae'r tri llywodraeth leol wedi bod yn gweithio'n agos gyda staff, plant a'u rhieni i ddatblygu cynlluniau Ffyrdd Diogel i'r Ysgol yn eu hardaloedd ac maent hefyd ynghlwm yn nifer o brosiectau eraill sy'n annog cerdded a seiclo.
Am wybodaeth ynghlyn â cherdded a seiclo fel modd o deithio i'r gwaith neu'r ysgol, cysylltwch â:
