21 Awst 2008

Beth yw cynllun rhannu car?
Cynllun rhannu car yw pan fydd dau neu ragor o bobl yn rhannu car ac yn teithio gyda’i gilydd. Drwy gymryd rhan mewn cynllun, byddwch nid yn unig yn cael elwa ar ffordd gyfleus o drafaelu ond hefyd yn helpu i atal tagfeydd traffig a llygredd.
Pryd caf i rannu car?
Cewch rannu car ar gyfer unrhyw siwrnai – e.e. mynd i’r gwaith; siopa am yr wythnos; mynd â’r plant i’r ysgol; mynd i’r gêm ar y penwythnos; teithio i ŵyl, digwyddiad neu sioe; mynd yn ôl ac ymlaen i’r brifysgol; ymweld â ffrindiau neu gyrraedd y maes awyr.
Beth yw manteision rhannu car?
Am ragor o gwestiynau cyffredin cliciwch yma
Ewch ati’n awr i gofnodi unrhyw siwrneiau rheolaidd neu siwrneiau arbennig sydd gennych mewn golwg. Cewch weld yn fuan pa mor hawdd yw i ni eich rhoi mewn cysylltiad â phobl eraill sy’n teithio i’r un cyfeiriad...
