21 Awst 2008

Defnyddwyr newydd – Cofrestru

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Os bydd gennych unrhyw broblemau pellach yn defnyddio'r safle, cysylltwch â ‘cefnogaeth'

Beth yw rhannu car?
Rhannu car yw pan fydd mwy nag unteithiwr mewn car preifat. Mae pawb yn rhannu ceir, gyda'n ffrindiau a'n teulu, heb feddwl am y peth. Yn aml mae yna adegau pan fydd gan y gyrrwr seddau gwag yn y car oherwydd nad ydynt yn gwybod am unrhyw un sydd angen lifft.
A dyna lle mae rhannu car a drefnwyd, gan ddefnyddio'r dechnoleg orau sydd ar gael heddiw, yn dod i rym.
Mae'r gwasanaeth cysylltu pobl i rannu car yn rhoi pobl sy'n teithio i'r un cyfeiriad neu gyrchfan debyg mewn cyswllt â'i gilydd, gan eu galluogi nhw i drefnu teithio gyda'i gilydd a rhannu'r gost, a hefyd ostwng tagfeydd a llygredd ar ein ffyrdd.
Yn ôl i'r brig


Beth yw manteision rhannu car?
Mae gan y DU y tagfeydd gwaethaf, yr amser cymudo hiraf, yr ail gyfradd uchaf o ddefnyddio'r ffordd a'r berchenogaeth car uchaf yn yr UE.
Mae sefyllfa draffig y DU wedi arwain at gostau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol:

  • Mae tagfeydd traffig yn costio £5 biliwn i'r economi bob blwyddyn mewn cynhyrchiant a gollwyd
  • Mae 10 miliwn o seddau gwag ar y ffordd bob dydd
  • Cyflymder cyfartalog traffig yn Llundain yw 10 mya
  • Mae 29% o blant yn teithio i'r ysgol mewn car
  • Achosir 90% o lygredd aer Llundain gan draffig y ffordd

Rhannu Car:

  • Lleihau'r gost o deithio mewn car
  • Costio llai na bron pob dull arall o gludiant
  • Lleihau tagfeydd a llygredd
  • Lleihau problemau parcio
  • Lleihau'r angen am gar preifat
  • Ehangu'r dalgylchoedd recriwtio ar gyfer busnesau
  • Darparu ateb go iawn i brinder cludiant cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig
  • Hybu integreiddio cludiant cyhoeddus a phreifat
  • Ffordd o gyfarfod â phobl newydd a thebyg eu barn.

Pe bai hanner gyrwyr y DU yn derbyn lifft un diwrnod yr wythnos, byddai gorlawnder a llygredd yn gostwng 10% a thagfeydd 20%.
Yn ôl i'r brig


Sut gallaf gymryd rhan?
Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i unrhyw un sy'n teithio yn y DU – myfyrwyr, cymudwyr, pobl sy'n cludo'u plant i'r ysgol, cefnogwyr pêl-droed, y rheiny sy'n mynychu gwyliau, twristiaid, gweithwyr – unrhyw un!
Ac mae ymuno â'r cynllun yn syml ac AM DDIM. Yr hyn sy'n rhaid i chi ei wneud yw Cofrestru eich manylion (am resymau diogelwch) a byddwn yn anfon eich cyfrinair atoch ar yr e-bost.
Gwnewch nodyn o'ch cyfrinair, oherwydd bydd ei angen arnoch i fynd i'r safle yn y dyfodol. Serch hynny, petai i chi ei anghofio, gallwch glicio ar Anfonwch fy nghyfrinair ataf. Bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon atoch ar yr e-bost yn syth.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru eich siwrnai ac wedi cyflwyno'r wybodaeth, byddwn yn chwilio'r gronfa ddata am gysylltiadau posib ac yn trosglwyddo manylion pobl eraill sy'n teithio ar yr un siwrneiau â chi.
Gallwch gysylltu ag unrhyw gwmni teithio addas drwy eu cyfeiriad e-bost (mae hyn yn sicrhau preifatrwydd yr aelodau) a threfnu i gwrdd â nhw mewn man casglu sy'n addas i'r ddau ohonoch. Gwnewch yn siŵr bod y ddau ohonoch yn dod â phrawf adnabod gyda chi fel eich bod yn gwybod eich bod yn cyfarfod â'r person cywir.
Ffordd arall o gymryd rhan yw sefydlu Grŵp rhannu car, neu gallwn ni ddatblygu un o'n Cynlluniau Rhannu Car Dynodedig ar gyfer eich cwmni, eich pentref, eich tref, eich gwasanaeth etc.
Yn ôl i'r brig


Pryd galla i rannu car?
Oherwydd y trefnu sydd ynghlwm wrth hyn, mae rhannu car yn fwy priodol ar gyfer teithiau a drefnwyd ymlaen llaw neu siwrneiau rheolaidd, gan gynnwys:

  • Mynd i'r gwaith ac yn ôl
  • Gwneud y siopa wythnosol
  • Cludo'r plant i'r ysgol
  • Mynd i weld y gêm ar y penwythnos
  • Teithio i ŵyl, digwyddiad neu sioe fawr
  • Mynd i'r brifysgol ac oddi yno neu ymweld â ffrindiau

Ond gallwch hefyd chwilio am gwmni teithio ar gyfer siwrneiau unigol i unrhyw le yn y wlad.
Yn ôl i'r brig


Beth yw'r posibilrwydd o ddod o hyd i'r cwmni perffaith ar gyfer fy ngofynion?
Bu miloedd o bobl yn llwyddiannus yn dod o hyd i gwmni teithio drwy ddefnyddio liftshare, ac mae ein meddalwedd wedi'i ddylunio er mwyn nodi'r holl ffyrdd posib o'ch cludo chi o a i b.
Ond, os byddwch yn cael trafferth dod o hyd i gwmni, rydym yn awgrymu eich bod yn chwilio am gwmni teithio am ran o'ch siwrnai ac yn teithio'r gweddill ar gludiant cyhoeddus.
A chofiwch - po fwyaf o aelodau sydd gennym, mwyaf yw'r cyfle o ddod o hyd i'r union gwmni i chi. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich ffrindiau am liftshare, a'u cael nhw i gofrestru eu siwrneiau cgaph.
Yn ôl i'r brig


A fydd fy nghyfeiriad e-bost yn weladwy i ddefnyddwyr eraill?
Na fydd, bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei guddio bob amser. Yr unig wybodaeth sy'n weladwy i ddefnyddwyr eraill yw eich enw ‘arferol', eich opsiwn smygu a manylion y siwrnai rydych wedi'u hychwanegu.
Yn ôl i'r brig


Beth yw manteision ariannol rhannu siwrneiau?
Cost gyfartalog tanwydd yw 20c y filltir…
Mae liftshare yn awgrymu bod teithwyr yn talu 10c y fillitir yr un a £1 tuag at draul cyffredinol.
Felly fel gyrrwr…

  • …bydd rhoi lifft i un person yn haneru eich costau tanwydd!
  • …bydd rhoi lifft i 2 berson yn talu am eich costau tanwydd!
  • …bydd rhoi lifft i 3 pherson yn dechrau ad-dalu rhai o gostau ychwanegol rhedeg eich car!

Ac fel teithiwr…

  • …drwy dalu 10c y filltir gallwch deithio 100 milltir am £11 yn unig!

Yn ôl i'r brig


A oes rhaid i mi dalu i chwilio am yrwyr neu deithwyr?
Mae'n rhad ac am ddim i chwilio am gwmni teithio. Ond, rydym yn argymell bod gyrwyr a theithwyr yn rhannu cost pob taith, neu gall teithwyr dalu 5c y filltir.
Yn ôl i'r brig


Beth yw goblygiadau yswiriant rhannu lifft?
“Ni fydd cyfranogi mewn cynllun rhannu lifft yn annilysu yswiriant gyrwyr”, dywed Vic Rance o Sefydliad Yswiriant Prydain.
“Dylai gyrwyr sy'n ansicr gysylltu â'u cwmnïau yswiriant”.
Ni ddylai rhannu ceir a rhannu'r gost gynyddu eich costau yswiriant, er y gall codi mwy ar eich teithwyr na'u rhan hwy o'r costau rhedeg annilysu eich yswiriant.
Os hoffech gysylltu â'ch cwmni yswiriant, defnyddiwch ein Llythyr Drafft.
Yn ôl i'r brig


Beth yw fy nghyfrinair ac a allaf ei newid?
Byddwn yn e-bostio eich cyfrinair atoch cyn gynted ag y byddwch wedi cofrestru.
Os hoffech newid eich cyfrinair i un y byddwch yn ei gofio'n well, cliciwch ar Personol, dilëwch y sêr yn y bocsys cyfrinair a'u hailosod nhw gyda'ch cyfrinair eich hunan.
Yn ôl i'r brig


Pa wasanaethau eraill sydd ar gael?
Mae gan y safle liftshare.com Adroddiadau Traffig, Cynllunwyr Siwrneiau cynhwysfawr a gwybodaeth ar Fysus, Trenau a llawer mwy i'ch helpu i gynllunio eich siwrnai yn effeithiol.
Mae ein meddalwedd hefyd yn gadael i chi greu eich Grwpiau rhannu car eich hunan yn rhad ac am ddim, fel y gallwch greu grŵp caeedig unigryw i chi a'ch ffrindiau, neu grŵp agored newydd ar gyfer pobl â diddordebau penodol.
Byddwn hefyd yn darparu Cynlluniau Rhannu Car Dynodedig ar gyfer grwpiau, cwmnïau neu gymunedau sydd eisiau darparu ffordd rad a hawdd i bobl deithio. Mae'r gwasanaethau eraill yn cynnwys Gwasanaethau Ymgynghori, Arolygon Teithio, dylunio Gwefan Gludiant a chynorthwyo i Hyrwyddo eich Cynllun.
Yn ôl i'r brig


Beth yw grŵp sy'n rhannu lifft?
Mae gennym nifer mawr o grwpiau cyhoeddus y gallwch ymuno â nhw heb unrhyw gost ychwanegol, sy'n eich galluogi chi i ddod o hyd i gwmni teithio â diddordebau neu gyrchfannau tebyg i chi. Cliciwch yma i weld rhestr gyflawn o'r grwpiau cyhoeddus.
Gallwch hefyd sefydlu eich Grŵp Preifat eich hun y byddai mynediad iddo yn gyfyngedig.
Yn ôl i'r brig


Sut gallaf greu grŵp rhannu lifft?
Mae creu grŵp yn hawdd! Yr hyn sydd angen i chi benderfynu yw a hoffech greu Grŵp Preifat, lle bydd yr aelodaeth yn gyfyngedig, neu Grŵp Cyhoeddus lle gall unrhyw un ymuno. Er enghraifft, efallai yr hoffech greu grŵp caeedig i chi a'ch cydweithwyr. Neu gallech greu grŵp agored ar gyfer unrhyw un â diddordeb mewn cerddoriaeth glasurol. Am ragor o wybodaeth cliciwch ar Grwpiau a dilynwch y cyfarwyddiadau!
Yn ôl i'r brig


Sut mae cysylltu â'r gyrrwr/ teithiwr?
Ar ôl dewis cwmni teithio addas, dylech gysylltu (er mwyn cytuno ar amser a lleoliad i gyfarfod) gan ddefnyddio ei gyfeiriad e-bost. Nid ydym yn argymell eich bod yn cyfnewid cyfeiriadau cartref (am resymau diogelwch) ac rydym yn cynghori pob aelod i gwrdd mewn mannau cyhoeddus fel gorsaf drenau neu orsaf fysus, sy'n hawdd eu cyrraedd a'u gadael, os bydd y lifft yn methu.
Yn ôl i'r brig


Beth sy'n digwydd os bydd y rhannu lifft yn methu?
Mae liftshare yn ddarparydd gwasanaeth gwybodaeth deithio yn unig ac ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw siwrneiau sy'n methu. Hefyd, nid yw'r gyrwyr a'r teithwyr sy'n cofrestru eu siwrneiau gyda ni o dan unrhyw oblygiad cyfreithiol i'w cwmni teithio nac i liftshare i wneud unrhyw siwrneiau.
Ond rydym yn gobeithio os bydd cynlluniau'n newid ac na all siwrneiau gael eu cyflawni, y byddant yn cysylltu â'r holl bartïon a'u rhagrybuddio'n briodol. Rydym hefyd yn awgrymu bod cwmni teithio yn trefnu cwrdd mewn lleoliadau sy'n agos at rwydweithiau cludiant cyhoeddus, felly os bydd cynlluniau'n methu bydd gan y teithwyr opsiwn o ddefnyddio dull arall o gludiant i gyrraedd eu cyrchfan yn brydlon.
Yn ôl i'r brig


Pa mor ddiogel yw rhannu car?
Mae diogelwch ein haelodau yn flaenoriaeth ar gyfer liftshare, ac rydym wedi creu ein gwefan mor ddiogel â phosib. Mae holl fanylion ein haelodau yn cael eu storio'n ddiogel ar gronfa ddata a dim ond gwybodaeth deithio arfaethedig yr aelodau y gellir ei hygyrchu ar-lein.
O ran y teithio, mae pob aelod yn gyfrifol am ei ddiogelwch ei hun. Ond, rydym yn argymell bod aelodau'n dilyn rhai camau diogelwch syml a amlinellwyd isod:

  • Osgowch gyfnewid cyfeiriadau cartref gyda'ch cwmni teithio cyn i chi gwrdd â nhw.
  • Trefnwch gwrdd mewn man cyhoeddus.
  • Dywedwch wrth ffrind neu aelod o'r teulu gyda phwy y byddwch yn teithio, pryd a ble.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn dangos prawf adnabod i'ch gilydd - pasport, cardiau myfyrwyr neu drwyddedau gyrru - fel eich bod yn gwybod eich bod yn teithio gyda'r person cywir.
  • Nid ydych dan unrhyw oblygiad i fwrw ymlaen ag unrhyw rannu lifft. Os oes gennych unrhyw amheuon am eich cwmni teithio, am ba reswm bynnag, dylech osgoi teithio gyda nhw.
  • Os oes gennych unrhyw broblemau ffoniwch ni ar unwaith ar 01953 451166 a byddwn yn ceisio helpu mewn unrhyw ffordd a allwn.

Am ragor o wybodaeth am ddiogelwch a diogeled gwybodaeth bersonol darllenwch yr Amodau a'r Telerau a'r Polisi Cyfrinachedd.
Yn ôl i'r brig


A yw hi'n bosib dod o hyd i gwmni teithio o'r un rhyw? (h.y menywod yn unig)
Ydy, drwy ein grwpiau cyhoeddus, gallwch ymuno â chynlluniau rhannu car menywod neu ddynion yn unig.
Yn ôl i'r brig


Ble dylwn i drefnu cwrdd â'm cwmni teithio?
Rydym yn awgrymu eich bod yn cwrdd â'ch cwmni teithio mewn man cyhoeddus, yn agos at rwydweithiau cludiant cyhoeddus os yn bosib fel bod opsiynau cludiant eraill ar gael os bydd y lifft yn methu. Rydym yn cynghori aelodau i beidio â chwrdd yn y cyfeiriad cartref am resymau diogelwch.
Yn ôl i'r brig


Sut mae diddymu fy aelodaeth?
I ddiddymu eich aelodaeth, cliciwch ar y dudalen Manylion Personol a dewiswch ‘A wnewch chi ddiddymu fy manylion'. Bydd eich manylion yn cael eu dileu o'r gronfa ddata yn syth.
Yn ôl i'r brig


Sut mae newid fy nghyfeiriad e-bost, cyfrinair etc?
I newid unrhyw fanylion personol fel eich cyfeiriad e-bost neu gyfrinair diofyn, cliciwch ar Manylion Personol, ac yna ‘Diweddaru fy manylion'. Gallwch newid eich manylion pan fydd angen, a bydd y manylion ar ein cronfa ddata yn cael eu diweddaru'n awtomatig. Bydd unrhyw fanylion newydd hefyd yn cael eu e-bostio atoch chi ar gyfer eich cofnodion.
Yn ôl i'r brig


Beth yw Gwefan Ddynodedig?
Gall liftshare greu gwefan rhannu car ddynodedig i chi, naill ai fel rhywbeth unigol neu fel rhan o'ch gwefan neu fewnrwyd bresennol. Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalen Gwefannau Dynodedig.
Yn ôl i'r brig


Beth yw manteision Gwefannau Dynodedig a chynlluniau Grŵp?

  • Darparu opsiwn cludiant rhad ar gyfer staff, clientiaid ac ymwelwyr
  • Lleihau traffig a thagfeydd
  • Lleihau llygredd
  • Gostwng pwysau ar gyfleusterau parcio ceir
  • Eich helpu i wella cysylltiadau â'r gymuned leol
  • Arddangos eich ymroddiad i'r amgylchedd
  • Gwella eich delwedd gorfforaethol
  • Ehangu eich dalgylch recriwtio a
  • Chynorthwyo i adeiladu tîm a datblygu ysbryd cymunedol
  • Gall ffurfio rhan allweddol o'ch Cynllun Teithio.

Yn ôl i'r brig

  * Agorir y linciau a nodwyd gan seren mewn ffram newydd.
Disclaimer | Ymwadiad | Privacy